- Welsh
- Mi sydd fachgen ieuanc ffôl.
- Yn byw yn ôl fy ffansi
- Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn,
- Ac arall yn ei fedi.
- Pam na ddeui ar fy ôl,
- Rhyw ddydd ar ôl ei gilydd?
- Gwaith ‘rwyn dy weld, y feinir fach,
- Yn lanach, lanach beunydd!
- Glanach, lanach wyt bob dydd,
- Neu fi â’m ffydd yn ffolach,
- Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd,
- Gwna im drugaredd bellach.
- Cwnn dy ben, gwêl acw draw,
- Rho i mi’th law wen dirion;
- Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
- Mae allwedd clo fy nghalon!
- Tra fo dŵr y môr yn hallt,
- A thra fo ‘ngwallt yn tyfu
- A thra fo calon yn fy mron
- Mi fydda’n ffyddlon iti:
- Dywed imi’r gwir dan gel
- A rho dan sel d’atebion,
- P’un ai myfi neu arall, Ann,
- Sydd orau gan dy galon.
| - English (literal translation)
- I am a young and foolish lad
- Who lives as I please
- I lovingly tend the ripening wheat
- And another reaps it.
- Why not follow me
- Some day after another?
- Because I see you little lass,
- Purer and purer each day!
- Purer and purer are you every day,
- Or I with my faith more foolish,
- For the One that created your countenance,
- Be compassionate towards me now.
- Lift your head, look over there,
- Give me your dear white hand;
- Because in your lovely breast
- Is the key to the lock of my heart!
- Whilst the water of the sea is salty,
- And whilst my hair is growing
- And whilst there is a heart in my bosom
- I will be faithful to you:
- Tell me the truth in secret
- And give under seal your answers,
- Whether it is I or another, Ann,
- Which is preferred by your heart.
|